Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 7
Hydref 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
(45 munud)
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)
(45 munud)
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Stadco yn dilyn newyddion ei fod yn bwriadu cau ei ffatri yn Llanfyllin, gan effeithio ar 129 o weithwyr?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o drafferthion yn y gadwyn gyflenwi sy'n effeithio ar Roche Pharmaceuticals, a goblygiadau hyn o ran capasiti profi yn GIG Cymru?
4 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
5 Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-20
(15 munud)
NDM7420 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)
Cynnig bod Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01 -20 a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliadau yn yr adroddiad.
6 Cynnig i ddirprwyo awdurdod ar gyfer gwneud y trefniadau i recriwtio Comisiynydd Safonau newydd i'r Prif Weithredwr a'r Clerc
(5 munud)
NDM7419 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 3 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, a pharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Mesur hwnnw yn dirprwyo’r gwaith o wneud trefniadau ar gyfer recriwtio’r Comisiynydd Safonau (ond nid ar gyfer penodi’r person a nodir) i Glerc y Senedd.
Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009
7 Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro
(15 munud)
NDM7418 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Douglas Bain CBE TD wedi’i benodi yn Gomisiynydd dros dro yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (“y Mesur”) ar 13 Tachwedd 2019.
2. Yn ystyried yr adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad [Taliad y Comisiynydd Safonau dros dro] (“yr adroddiad”) yn ymwneud â’r cynnig i addasu telerau penodiad Mr Bain
3. Yn addasu telerau penodiad y Comisiynydd dros dro, yn unol ag adran 4(4)(d) o’r Mesur, fel y nodir yn Atodiad A o’r adroddiad.
Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009
Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro
8 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd: Diwygio'r Senedd: y camau nesaf
(30 munud)
NDM7417 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, ‘Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf’, aosodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2020.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd: Crynodeb o’r argymhellion
9 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amlygu'r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig
(60 munud)
NDM7406 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Senedd Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amlygu’r materion: anghydraddoldeb a’r pandemig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Awst 2020.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2020.
10 Dadl Plaid Cymru - Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth
(60 munud)
NDM7421 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19.
2.Yn croesawu’r archwilio o’r newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill.
3. Yn cefnogi galwadau i sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol.
4. Yn gresynu at y ffaith bod cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19.
5. Yn gwrthwynebu cynigion i ddatblygu un neu ragor o amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Cyngor y Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio';
b) defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu i adeiladau a ddefnyddid at ddibenion celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn i Ddeddf Coronafeirws 2020 ddod i rym gael caniatâd cynllunio newid defnydd tra bo’r pandemig yn parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r lleoliadau hynny at eu prif ddiben;
c) archwilio creu amgueddfa genedlaethol hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw i’w lleoli yn Tiger Bay fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o amgueddfeydd milwrol;
d) sicrhau mwy o gyfranogiad pobl ddu a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil Cymru;
e) sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei chyfanrwydd wrth symud ymlaen;
f) cyflwyno gwarchodaeth statudol i atal colli enwau lleoedd Cymraeg o’r amgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig; a
g) sicrhau bod pob adran o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud hynny.
Deddf Coronafeirws 2020 (Saesneg yn unig)
Cynghrair Hil Cymru: Ein Maniffesto dros Gymru Wrth-Hiliol
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu pecyn achub y celfyddydau gwerth £1.57 biliwn gan Lywodraeth Ei Mawrhydi a'r swm canlyniadol o £59miliwn sy'n deillio ohono i Gymru.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cynlluniau ar gyfer amgueddfa meddygaeth filwrol ym Mae Caerdydd ac yn cydnabod pwysigrwydd lleoliadau ledled Cymru sy'n dathlu treftadaeth filwrol gyfoethog Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 4 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny.
Gwelliant 5 Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau b) a c) a rhoi yn eu lle:
b) yn cydnabod y pwyslais y mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu defnyddiau diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd.
c) yn gweithio i sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 8 Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau e) a f) a rhoi yn eu lle:
e) yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau;
f) yn cydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol.
Gwelliant 9 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:
yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol o ariannu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn galw am gynnydd o £1.445 miliwn mewn cyllid sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 10, 11, 12 a 13 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
11 Cyfnod Pleidleisio
12 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7415 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Y tu hwnt i COVID-19: economi gynaliadwy i Flaenau'r Cymoedd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Hydref 2020